Post Cyntaf
Roedd hi’n wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru wythnos diwetha a gaethon ni’r cyfle i glywed gan lawer iawn o ddysgwyr am eu bywydau a’u profiadau’n dysgu’r iaith. Dechreuodd yr wythnos fore Llun wrth i Dylan Jones holi Barry Lord o Drefaldwyn ym Mhowys. Cafodd Barry ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth hi i ardal Meifod ym Mhowys yn 2015. Ond ydy’r pandemig wedi cael effaith ar ei brofiadau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth?
Eu bywydau a’u profiadau - Their lives and experiences
Cafodd Barry ei ysbrydoli - Barry was inspired
Trefaldwyn - Montgomery
Hyder - Confidence
Pabell - Tent
Yn galonogol iawn - Very encouraging
Anhygoel - Incredible
Cyfathrebu - To communicate
Gan gynnwys - Including
Aled Hughes
Barry Lord o Drefaldwyn yn dal i ddysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg er gwaetha’r pandemig. Mae Kai Saraceno yn dod o’r Eidal yn wreiddiol a buodd o’n byw yn y Ffindir ers pan oedd e’n naw oed. Ar hyn o bryd mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma i chi glip o Aled Hughes yn ei holi am ei hanes e’n dysgu’r Gymraeg.
Er gwaetha - In spite of
Bodoli - To exist
Ar hap - By chance
Cymeriad - Character
Mae’n deg dweud - It’s fair to say
Newid cyfeiriad - To change direction
Yn falch - Pleased
Cymuned - Community
Trafod - To discuss
Aled Hughes
…a dyma i chi glip arall o Kai. Drwy gydol Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg roedd Kai ar ein sioeau yn gyson er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill a rhoi’r teimlad i ni gyd sut beth yw dod at yr iaith o‘r newydd fel oedolyn. Un ferch gafodd ei holi oedd Shaun McGovern, sy’n dod o Washington DC yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Dyma i chi flas ar y sgwrs…
Chdi - Ti
Gwatsiad - Gwylio
Ffindir - Finland
Yn ddiweddar - Recently
Y rhan fwyaf - Most
Wedi cuddio - Hidden
Shan Cothi
Eidalwr yn siarad yn Gymraeg gydag Americanes am eu profiadau’n dysgur iaith – gwych on’d ife? Gwestai Sian Cothi i ddathlu’r wythnos arbennig hon oedd Janet Tabor o Gastell-Nedd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd a dyma hi’n sôn am ei thaith yn dysgu’r iaith.
Caeredin - Edinburgh
Caint - Kent
Casgwent - Chepstow
Hwb - Boost
Dychmygu - Imagine
Gerallt Lloyd
Janet Tabor oedd honna wedi cael blas ar y Gymraeg drwy fynd ar un o gyrsiau Gwent. Tiwtor Cymraeg oedd un o westeion Geraint Lloyd wythnos diwtha – Eilir Jones sydd yn dysgu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Eilir hefyd yn gomedïwr ac yn berfformiwr a dyma fe’n egluro wrth Geraint pam oedd e eisiau dod yn diwtor a sut cafodd e’r swydd …
Tyrd draw - Come over
Fesul awr - Hourly
Hyfforddiant - Training
Cymwysterau - Qualifications
Cyngor - Advice
Gwerthfawrogi - To appreciate
Cefnogaeth - Support
Yr Wyddgrug - Mold
Sara Yassine
Eilir Jones oedd hwnna’n sôn am fywyd tiwtor Cymraeg.
Mae Sara Yassine a’i thad Ali yn dod o Grangetown, Caerdydd ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg. Mae eu teulu yn dod o’r Aifft ac o Somalia yn wreiddiol. Dyma Ali’n rhoi o ychydig o hanes y teulu ac wedyn Sara’n chwilio am hanes poblogaeth leiafrifol Caerdydd.
Yr Aifft - Egypt
Lleiafrif - Minority
Mwyafrif y disgyblion - The majority of the pupils
Ymgynghorydd Treftadaeth - Heritage Consultant
Bedyddio - To baptise
Cofnod - Record
Cafodd ei gaethiwo - Was enslaved
Eu cadw’n gaeth - Kept captive
Y Gymanwald - The Commonwealth
O dras Prydeinig - Of British heritage
view more