Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Education
Pennod 1 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
Sesiwn 1: Cwrdd ar traed
Mae'r sesiwn gyntaf hon yn eich gwahodd i gwrdd ar traed. Yn aml iawn mae ein sylw yn nghanol ein meddyliau. Dyma gyfle i dalu sylw’n fwriadol i'r corff ac i archwilio'r byd o'n cwmpas trwy wadnau ein traed.
Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tu
allan.
Daw cân yr adar ar ddechrau a diwedd y recordiad hwn o ardd sydd yn cefnu ar y Carneddau wrth i'r haul godi dros Foel Faban.
Gwahoddiad 1: ‘Cwrdd a'r traed’
Chwalu myth Meddylgarwch : Rhaid ymarfer meddylgarwch yn araf
Nid oes rhaid ymarfer meddylgarwch yn araf. Gallwn ymarfer cerdded neu redeg yn ystyriol, gan sylwi ar deimladau or awel yn rhuthro heibio neu swn y traed yn glanio. Weithiau gall helpu iddechrau drwy arafu, gan gymryd saib bwriadol, gan sylwi ar fanylion y teimladau yn eithaf manwl ar y dechrau.
Bydd y sesiwn nesaf yn cynnwys synau o ran gwahanol o'r Carneddau ac ymarfer meddylgarwch drwy dalu sylw i'r anadl fel lle i angori'r sylw.
Create your
podcast in
minutes
It is Free