Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Education
Cyflwyniad - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
Mae'r gyfres fer ymwybyddiaeth mewn natur yn cyflwyno chwech o ymarferion i chi gyflawni yn eich cartref, eich gardd neu yn y byd o'ch cwmpas. Mae synau o wahanol ardaloedd o'r Carneddau yn cyd-fynd a phob recordiad.
Ymwybyddiaeth…
Yn syml, mae ymwybyddiaeth yn dod a'n sylw i'r presenol. Pan mae ein meddyliau'n prysuro, gall hyn fod yn doriad hynod bwysig at ein iechyd cyffredinol.
Ymwybyddiaeth mewn natur…
Mae natur yn le perffaith i ymarfer ac yn aml rydym yn ymgysylltu'n naturiol gyda'r amser presenol a'n synhwyrau wrth dreulio amser yno.
Podlediadau a gwahoddiad…
Gall bob ymarfer gael ei wneud y tu mewn wrth edrych tu allan at y byd naturiol, neu unrhyw le o'r ardd gefn i gopa mynydd. Pam lai gwrando ar y podlediad tu mewn ac yna gwneud yr ymarfer y tu allan heb gyfarwyddyd, Gallwch atgoffa eich hun o'r pwyntiau yn y gwahoddiadau cyn mynd allan. Gall mynd a rhywbeth gyda chi i eistedd arno fod yn hwylus i gadw'n sych.
Create your
podcast in
minutes
It is Free