Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Education
Pennod 6 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
Sesiwn 6: Ymarfer y mynydd
Maer sesiwn olaf hon yn ymarfer y mynydd. Gall mynyddoedd fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth wych ar gyfer meddylgarwch a gall yr ymarfer hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd pethau'n teimlo'n ansefydlog. Gall dwyn delwedd o fynydd i'r cof, Gyda'u rhinweddau o erytder, llonyddwch a sefydlogrwydd ein helpu i ddod o hyd i lonyddwch yng nghanol y newidiadau o'n cwmpas.
Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio heb arweiniad.
Mae'r synau natur ar ddechrau a diwedd y recordiad yma yn ganeuon adar ar noson oer o Ebrill mewn gardd yn Rachub wrth i'r haul fachlud.
Gwahoddiad 6: Ymarfer y mynydd
Chwalu myth meddylgarwch: Mae angen i chi ymarfer am gyfnodau hir
Mae arferion hirach yn wych hefyd, ond gall hyd yn oed dilyn anadl neu ddwy neu roi sylw ar uno'n synhwyrau helpu os ydym yn teimlo'n boenus neu'n bryderus, gan ddod a ni yn ol i'r foment bresennol.
Dyma'r sesiwn olaf yn y gyfres hon o bodlediadau meddylgarwch a natur. Gobeithio eich bod wedi mwynhau.
Mae'r gyfres o bodlediad meddylgarwch yma ym myd natur yn gydweithrediad rhwng Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, Gwenan Roberts o Ymwybyddiaeth Gwynedd a Golygfa Gwydyr
Create your
podcast in
minutes
It is Free