Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Education
Pennod 5 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
Sesiwn 5: Cysylltu a’r synhwyrau: Llecyn llonydd ac archwilio gwrthrych o fyd natur
Mae dwy ran i’r sesiwn hon - archwilio gwrthrych ym myd natur gan ddefnyddio'r holl synhwyrau. Ac arfer clasurol o'r grefft Siapaneaidd o 'Ymdrochi yn y Goedwig, sy'n dod o hyd i‘lecyn llonydd’ ym myd natur.
Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tu allan...
Daw'r synau natur ar ddechrau a diwedd y recordiad hwn o'r Ffos Rhufeiniaid sy'n rhedeg ar hyd ochr Moel Faban.
Gwahoddiad 5 (i)
Gwahoddiad 5.ii.
Gall cael ‘llecyn llonydd’ ym myd natur (neu edrych allan ar natur neu blanhigyn) fod yn
beth hyfryd
Dod o hyd i le cyfforddus, gan setlo'r corff a'r meddwil y gorau gallwch chi...
Sylwi...ar deimladau yn y traed neu rythm yr anadl...
Yna dim ond agor i'r byd o'ch cwmpas, gan gynnwys eich hun...sylwi ar beth bynnag sy'n digwydd o foment i foment...synau...aroglau...lliwiau a gweadau...
Efallai y byddai'n braf dod o hyd i hoff fan i eistedd yn rheolaidd gydag ymwybyddiaeth agored, dim ond eistedd...
Os ydych yn eich gardd, a oes yna feddyliau o ‘bethau i'w gwneud’ yn tynnu eich sylw? Gall hwn fod yn gyfle gwych i ymarfer gadael iddynt fod am y tro, gan sylwi ar dynfa'r math hwn o feddyliau ac arwain eich sylw yn ôl yn dyner — at yr hyn yr ydych yn sylwi arno nawr...?
Chwalu myth Meddylgarwch: Mae meddylgarwch yn hamddenol
Gall hyn fod yn sgil-effaith hapus. Fodd bynnag, mae meddylgarwch yn rhoi cyfle inni ymarfer talu sylw yn ofalus | beth bynnag yr ydym yn dod ar ei draws yn ein bywydau o ddydd i ddydd (fel ein meddyliau a'n teimladau, y byd o'n cwmpas), gall rhain fod yn ddymunol, annymunol neu rywle yn y canol.
Y sesiwn nesaf yw'r olaf, byddwn yn dod d@ synau i chi o ran gwahanol or Carneddau ac ymarfer ‘y mynydd.
Create your
podcast in
minutes
It is Free