Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Education
Yn y rhifyn hwn o Bodlediad Eryri, Gwen Aeron Swyddog Cyfathrebu Cynllunio a Rheoli Tir APCE sy'n sgwrsio gyda Bethan Wynne Jones (Swyddog Bioamrywiaeth), Rhys Gwynne (Warden Ardal Dolgellau) a Dani Robertson (Swyddog Awyr Dywyll) am fioamrywiaeth a rhywogaethau arbennig Eryri.
Mae Eryri gyfystyr ag ardaloedd helaeth o ucheldiroedd digysgod a chopaon cribog. Ar wahân i harddwch ei mynyddoedd uchel, mae gan Eryri gynefinoedd lled-naturiol trawiadol, sy’n gynnyrch grymoedd naturiol a gweithgareddau dyn. Yn sgil ei lleoliad yng ngorllewin Ewrop, daw tywydd cynnes, gwlyb i Eryri, sy’n golygu ei bod yn gartref delfrydol i filoedd o rywogaethau a’u cynefinoedd. Mae nifer o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn o bwysigrwydd rhyngwladol, ac mae rhai ohonynt na ellir eu canfod mewn unrhyw fan arall yn y byd!
(A Welsh podcast episode focusing on Biodiversity in Eryri, the next English episode will be broadcast on the 27th of May and will focus on The Snowdonia Society).
Create your
podcast in
minutes
It is Free